|
1,2,(3),4.
Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw,
Llawn o archollion o bob rhyw,
Yn byw mewn eisieu gwaed y groes
Bob mynyd awr
o'r dydd a'r nos!
Yma, fy Arglwydd, wrth dy groes,
Y ceir fy enaid ddydd a nos,
A than ddyferion pur dy waed
Yn dysgwyl beunydd am iachâd.
Gweddio'r wyf, och'neidio'n brudd,
Rhyfela'n deg am gael y dydd;
Rho deimlo rhîn
dy aberth mawr
Yn tynu meichiau oll i lawr.
O edrych, Arglwydd, 'nawr yn rhad
Ar un sy'n gorwedd wrth dy draed;
A dywed, "Yn dy waed bydd fyw!"
A molaf byth dy enw gwiw.
- - - - -
1,(2,3,4),7,8,9; 1,2,5,6,7.
Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw,
Llawn o archollion o bob rhyw,
Yn byw mewn eisieu o waed y groes
Bob mynud awr
o'r dydd a'r nos.
O Arglwydd! cofia'th angeu drud,
A'th boenau mawrion yn y byd;
A dadleu 'rhai'n âg uchel lef
Dros f'enaid tlawd yn nghanol nef.
Llama fel hŷdd tros fryniau pell,
Cyflawna'r addewidion gwell;
O galw'd etholedig hâd,
I brofi rhagorfreintiau'th waed.
Pam cyfyd hunan ynwy'n hwy?
P'odd gweddai balchder imi mwy?
Pam tybiai 'mod yn rhywbeth gwych?
A mi'n bechadur gwael ei ddrych!
Rhyfeddu'r wyf, rhyfeddaf byth
Na buaswn mewn uffernol nyth;
Rhyfeddaf fwy, os f'enaid ddaw
Trwy'r d'rysni mewn i'r nefoedd draw.
Ti fuost farw (rhyfedd yw)
Er mwyn dy elynion i gael byw;
Derbyn i'th gôl, a rho ryddhâd
I'r sawl a brynaist â dy waed.
Fe gaiff dy enw anwyl glod,
Pan ddarffo i'r nef a'r ddaear fod,
Am achub un mor wael ei lun,
Na all'sai ei achub ond dy hun.
'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy',
Yn Frawd a Phrïod imi mwy;
Ef yn Arweinydd, ef yn Ben,
I'm dwyn i mewn i'r nefoedd wen.
Ei ganmawl bellach wnaf o hyd,
Er maint o boenau
sy'n y byd;
Dechreuais gân
a bery'n hwy,
Nag y ceir diwedd arni mwy.
- - - - -
1,2,6,7,8,9,10; 1,2,6,(9,(10)); 1,2,(6,8),9; 1,3,4,6; 1,5,6,9; 1,6,7,9.
Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw,
Llawn o archollion o bob rhyw,
Yn byw mewn eisiau o waed y groes
Bob munud awr
o'r dydd a'r nos!
Yng nganol cyfyngderau lu,
A myrddiwn o ofidiau du,
Gad imi roddi pwys fy mhen
I orffwys ar dy fynwes wen.
Gwn mai rhinweddol yw dy waed
I bledio'm hawl o flaen y Tad,
A chlirio ffordd at orsedd gras,
A blotio 'meiau mwya' i maes.
Maddeuaist gan'waith,
maddeu hyn,
O Arglwydd càna fi eto'n wyn;
Rho i mi dyst, f'anwylyd cu,
I'm dirio yn y nefoedd fry.
O! edrych, Arglwydd! 'nawr yn rhad,
Ar un sy'n gorwedd wrth dy draed;
A dywed, "Yn dy waed bydd fyw!"
A molaf byth dy Enw gwiw.
O! cofia fi gerbron y Tad,
A dangos iddo werth dy waed;
O! dadlau'n awr yng nganol ne'
It roi dy fywyd yn fy lle.
O cadw fi mewn cof bob awr,
Yn nghanol nef wrth eiriol 'nawr,
Dwg f'enaid mewn llyth'renau llawn
O flaen y fainc yn ffyddlon iawn.
N'âd bechod bellach roi i'm glwy',
Nac ofn angau 'mlino mwy;
Gwna fi'n gyfarwydd iawn o hyd
A'r llwybrau'r ochr
draw i'r byd.
Gad imi dreulio 'nyddiau i gyd
I edrych ar dy ŵyneb-pryd;
Difyrru f'oes o awr i awr
I garu fy Eiriolwr mawr.
O! cofia fi pan bwy'n y bedd,
A chasgla'm llwch i'r lan mewn hedd;
O! arddel fi yn y farn a ddaw,
A gosod fi ar dy ddeheu law.
ofidiau du :: ofidiau maith dadlau :: pledia It roi dy :: I ti roi'th fi mewn cof :: fi'n dy gof Yn nghanol nef wrth eiriol 'nawr, :: Wrth bleidio 'nghanol nef, yn awr Dwg f'enaid :: Dwg f'enaid yn ffyddlon iawn :: yn eon iawn dreulio 'nyddiau :: dreulio'm dyddiau Difyrru f'oes :: Difyru'm hoes
- - - - -
Pechadur wyf, da gwyr fy Nuw,
Llawn o archollion o bob rhyw,
Yn byw mewn eisiau o
waed y groes
Bob munud awr o'r dydd a'r nos
Yr olwg ar fy ngyflwr briw,
Dwys destyn i alaru yw;
Ond er mor ddu; fy enaid cân,
Mae modd i
olchi'r brwnt yn lân.
Fel hyn ryw'n canu ambell dro
Pan ddel gruddfanau'r
Ardd i'm co',
Mae'i angeu Ef yn tro fy nghri
Yn gân yn ngolwg Calfari.
Yn nghanol cyfyngderau caeth,
A myrddiwn o ofidiau maith,
Gad imi roddi pwys fy mhen
I orffwys ar dy fynwes wen.
William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Dowch addewidion dowch yn awr Dyma gygarfod hyfryd iawn Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist O Arglwydd cofia'th angeu drud O hoelia'm meddwl ddydd a nôs O Iesu mawr y Meddyg gwell O nertha'm henaid gwan ei ffydd O Pwy a ddeall faint ei fai? Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan? 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' 'Rwy'n gallu canu ambell dro Y Gras yr hedd a'r purdeb oll |
I am a sinner, my God knows well,
Full of wounds of every kind,
Living in need of the blood of the cross
Every single moment
of the day and the night!
Here, my Lord, at thy cross,
Is found my soul day and night,
And under pure drops of thy blood
Hoping daily for wholeness.
Praying am I, groaning earnestly,
Battling fairly to gain the day;
Grant the feeling of the merit
of thy great sacrifice
Pulling all sureties down.
O look, Lord, now freely
On one who is lying at thy feet;
And saying, "In thy blood one shall live!"
And I will praise forever thy worthy name.
- - - - -
A sinner I am, my God well knows,
Full of wounds of every kind,
Living in need of the blood of the cross
Every single moment
of the day and the night.
O Lord, remember thy costly death,
And thy great pains in the world;
And plead these with a loud voice
For my poor soul in the middle of heaven.
Leap like a hart across distant hills,
Fulfil the better promises;
O call thy chosen seed,
To experience the privileges of thy blood.
Why does self rise in me any longer?
How does pride befit me any more?
Why do I suppose I am something brilliant?
An I a sinner of base appearance!
Wondering I am, I shall wonder forever
That I would not be in an infernal nest;
I shall wonder more, if my soul come
Through the confusion into yonder heaven.
Thou hast died (it is amazing)
In order for thy enemies to get to live;
Receive to thy breast, and give freedom
To those thou hast bought with thy blood!
Thy beloved name will get praise,
When heaven and the earth shall cease to be,
For saving one of so poor a condition,
Whom none could save but thou thyself.
I am choosing Jesus and his mortal wound,
As Brother and Spouse for me evermore;
He as Guide, he as Head,
To lead me into the bright heavens.
Extol him henceforth I shall always do,
Despite the extent of pains
that are in the world;
I began a song
which shall continue longer,
Than having any end to it any more.
- - - - -
I am a sinner, my God knows well,
Full of wounds of every kind,
Living in need of the blood of the cross
Every single moment
of the day and the night!
Amidst a host of distresses,
And myriads of black griefs,
Let me put the weight of my head
To lie on thy blessed breast.
O look, Lord, now graciously,
On one who is lying at thy feet!
And saying, "In thy blood one shall live!"
And I will praise forever thy worthy name.
I know there is merit in thy blood
To plead my right before the Father,
And to clear a way to the throne of grace,
And blot my greatest faults out.
Thou didst forgive a hundred times,
forgive these,
O Lord bleach me white;
Give me a witness, my dear Lord,
To clear me in heaven above.
Oh remember me before the Father,
And show him the value of thy blood;
Oh argue now in the midst of heaven
Thou gavest thy life in my place.
O keep me in memory every hour,
In the centre of heaven interceding now,
Bring my soul in full letters
Before the throne very faithfully.
Do not let sin henceforth give me a wound,
Nor the fear of death grieve me any more;
Make me very familiar always
With the paths on yonder
side of the world.
Let me spend all my days
To look on thy countenance;
Delight my lifespan from hour to hour
To love my great Advocate.
Oh remember me when I am in the grave,
And collect my dust up in peace;
Oh own me in the judgment to come,
And place me at thy right hand!
black griefs :: great griefs argue :: plead :: me in memory :: me in thy memory In the centre of heaven interceding now, :: Interceding in the centre of heaven, now Bring my soul :: Bring my name very faithfully :: very boldly :: ::
- - - - -
A sinner am I, well knows my God,
Full of wounds of every kind,
Living in need of
the blood of the cross
Every minute of the day and night.
One look upon my wounded condition,
Is an intense reason to mourn;
But though so black, my soul, sing!
There is a means to
wash the filthy clean.
Thus I am singing many a time
When the groans of the Garden
come to my memory,
His death turns my cry
Into song in the sight of Calvary.
In the midst of captive straits,
And myriads of vast griefs,
Let me lay the weight of my head
To rest on thy blessed bosom.
tr. 2009,20 Richard B Gillion
|
|